A hithau’n gweithio yn y sector addysg uwch ers sawl blwyddyn, mae Sammi wedi gweithio ym maes datblygu ymchwil, marchnata digidol a gweinyddu busnes ym Mhrifysgol Abertawe. Yn fwyaf diweddar bu’n gweithio fel ysgrifennwr ceisiadau gyda’r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, gan ddarparu cymorth ar gyfer ceisiadau am gyllid. Cyn hyn bu’n cynorthwyo â phrosiectau yn yr Ysgol Feddygol a’r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol, gan gefnogi’r gwaith o gasglu data a chyfrannu at erthyglau i’w cyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd.
Yn raddedig o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru, mae gan Sammi BSc achrededig gan y BPS mewn Seicoleg a MSc mewn Seicoleg Iechyd, gan ychwanegu tystysgrif CIM broffesiynol mewn Marchnata Digidol at hyn yn ddiweddarach. Gan ddod â’r profiad hwn ynghyd, mae’n darparu cymorth gweinyddol o ddydd i ddydd i’r Prif Ymchwilydd, y Rheolwr Prosiectau a Sefydliad Awen yn ei gyfanrwydd.