Professor Nick Rich
Arweinydd Thema Fasnachol ar y Cyd N.L.Rich@Swansea.ac.uk

Dechreuodd ei yrfa yn ymchwilio i weithrediadau economaidd gyda Toyota Motor Corporation (Japan) tra yn Ysgol Fusnes Caerdydd cyn dychwelyd i’r DU i weithio gyda busnesau gweithgynhyrchu a gwasanaeth rhyngwladol mawr i ddefnyddio dulliau darbodus ar gyfer cynhyrchu a pheirianneg gwytnwch. Yn 2000 ehangodd ei ymchwil gyda darparwyr gofal iechyd ac yn hwyrach cafodd ei ariannu i astudio systemau clinigol mwy diogel gan y Sefydliad Iechyd tra yn Ysgol Feddygol Warwick. Mae wedi astudio a gwella amrywiaeth eang o lwybrau cleifion ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cyflyrau sy’n effeithio ar bobl hŷn gan gynnwys addasu’r amgylchedd i gefnogi gofal mwy diogel.

Cafodd ei wahodd i fod yn Brif Beiriannydd Diwydiannol ar gyfer medalau Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 ac ymunodd â Phrifysgol Abertawe yn 2013. Mae ganddo gylch gwaith pan-brifysgol sy’n cynnwys cydweithrediadau gyda’r Ysgolion Peirianneg, Iechyd a Gwyddor Dynol a Meddygol. Gweithia’n agos gydag Academi Bevan a’i raglen Enghreifftiol Bevan ‘blaenllaw’ (arloeswyr Proses a Thechnoleg).

Mae Nick yn Arweinydd Thema Fasnachol yn Sefydliad Awen, gan yrru cyfeiriad strategol masnacheiddio; cyfeirio, cefnogi a hwyluso gweithgareddau sy’n adeiladu llwybrau i’r farchnad ac i ddatblygu perthnasoedd ar draws yr holl glystyrau ymchwil a themâu trawsbynciol i fewnosod a chefnogi ymgysylltiad masnachol. Mae Nick hefyd yn gyfrifol am gefnogaeth / cyd-gynhyrchu gyda phobl hŷn (a deiliaid diddordeb eraill) i brofi cynhyrchion, gwasanaethau, profiadau a dulliau ymchwil ac i fwydo arbenigedd a gwybodaeth i ddatblygiad ‘Labordy Byw’ Sefydliad Awen h.y. cyfleuster byw beunyddiol, cyfleuster byw rhith-realiti wedi’i seilio ar leoliad a labordai byw yn y gymuned.

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr