Enillodd yr Athro Ian Walsh BA (Anrh), PhD, FRSA ei radd gyntaf mewn Dylunio 3D gan Brifysgol Cymru, Casnewydd ym 1988 a’i PhD o’r enw ‘nurturing innovation in industrial design – quantifying innovation propensity in industrial design by means of a novel innovation trait index ‘o Brifysgol Cymru, Abertawe yn 2008.
Ar hyn o bryd mae Ian yn Ddeon Coleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant. Mae ef hefyd yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Dylunio Cynaliadwy ac yn Brif Ymchwilydd Canolfan Arloesi Cerebra.
Mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad fel dylunydd, academydd ac ymchwilydd ac mae’n Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (FRSA). Mae ei ddiddordebau ymchwil cyfredol yn cynnwys rôl meddwl dylunio mewn byw â chymorth a meithrin arloesedd mewn unigolion a sefydliadau.
Rôl Ian gyda Sefydliad Awen yw Arweinydd Thema Trawsbynciol ar gyfer dylunio a datblygu.