Fiona yw Arweinydd Is-Thema’r Clwstwr Ymchwil ar gyfer iechyd a llesiant yn Sefydliad Awen ac mae’n Athro Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol yn Ysgol y Gwyddorau Dynol ac Iechyd. Yn gymdeithasegwr ac yn weithiwr cymdeithasol, mae ganddi arbenigedd mewn datblygu cymunedol, polisi cymdeithasol ac ymchwil ymarferwyr.
Dechreuodd Fiona ei gyrfa yn Awstralia yn gynnar yn yr 1980au fel gweithiwr datblygu cymunedol mewn gofal oed. Yn dilyn hynny, mae hi wedi gweithio mewn swyddi rheoli yn y sector iechyd cymunedol ac wedi gweithio mewn swyddi polisi mewn sefydliadau anllywodraethol.
Fel academydd, mae hi wedi dysgu ac ymchwilio ym meysydd polisi cymdeithasol, datblygu cymunedol a chynllunio cymdeithasol. Cafodd swydd Deon, yn Ysgol Astudiaethau Cymdeithasol a Pholisi ym Mhrifysgol Flinders, De Awstralia dros y cyfnod 2011-2013. Trwy gydol ei gyrfa, mae Fiona wedi bod yn weithgar mewn gwaith cymunedol yn y sector gwirfoddol.