Mae David yn Athro Hanes ym Mhrifysgol Abertawe ac yn arbenigwr ar hanes anabledd. Mae’n dod â diddordeb i Sefydliad Awen mewn mynediad pobl hŷn ac anabl i’r celfyddydau a threftadaeth ddiwylliannol. Mae ganddo ddiddordeb yn y cwestiynau ynghylch sut mae pobl sydd wedi eu ‘hymyleiddio’ yn cael eu cynrychioli mewn lle cyhoeddus, a sut y gall treftadaeth gyhoeddus rymuso cymunedau nad oeddent erioed wedi meddwl eu hunain fel rhai â hanesion.
Ef yw awdur Disability in Eighteenth-Century England: Imagining Physical Impairment (Routledge, 2012), ac enillodd Wobr y Disability History Association Outstanding Publication Award am y llyfr gorau a gyhoeddwyd ledled y byd mewn hanes anabledd. Roedd yn Gyd-gyfarwyddwr Disability and Industrial Society: a Comparative Cultural History of British Coalfields 1780-1948 (Wellcome Trust, 2011-16), a archwiliodd ganfyddiad, triniaeth a phrofiadau glowyr anabl yn ne Cymru, yr Alban a Gogledd Ddwyrain Lloegr. Arweiniodd yr ymchwil hon at ei lyfr diweddaraf, Disability in the Industrial Revolution: Physical Impairment in British coalmining 1780-1880 (a ysgrifennwyd ar y cyd gyda Daniel Blackie), a gyhoeddwyd gan Manchester University Press yn 2018. Cyhoeddodd hefyd ar ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â phrofiadau pobl anabl a phobl hŷn, gan gynnwys hanesion symudedd corfforol, technoleg gynorthwyol, emosiwn ac allgáu. Mae ei ymchwil gyfredol yn archwilio hanes hir actifiaeth wleidyddol pobl anabl ym Mhrydain ers y ddeunawfed ganrif.
Archwilia gwaith David, anabledd, nid yn unig fel pwnc, ond fel offeryn sy’n ein hannog i ofyn cwestiynau newydd am y gorffennol sy’n herio ein dealltwriaeth gonfensiynol o fywydau pobl yn y gorffennol ac yn annog meddwl aflonyddgar am faterion cymdeithasol cyfoes. Cwestiwn allweddol sy’n arwain ei waith yw, beth sy’n digwydd i’n dealltwriaeth o’r gorffennol pan osodwn pobl sydd fel arfer wedi eu hymyleiddio ar yrion naratifau hanesyddol ynghanol y stori?
Mae David wedi ymrwymo i ehangu dealltwriaeth y cyhoedd o brofiadau pobl anabl trwy gydweithredu â darlledwyr, amgueddfeydd a phobl greadigol. Roedd yn ymgynghorydd hanesyddol ar gyfres BBC Radio Four, Disability: A New History (2013), ac arweiniodd tîm wnaeth guradu From Pithead to Sickbed and Beyond: the Buried History of Disability in Wales before the NHS (Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, 2015). Fe wnaeth hyfforddi grwpiau cymunedol i ymchwilio i’w hanes eu hunain ac ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda’r awdur Katie O’Reilly ar Gymrodoriaeth Creadigrwydd Prifysgol Abertawe sy’n cysylltu profiadau pobl anabl yn y gorffennol gyda’r bobl hynny sy’n byw heddiw trwy ysgrifennu creadigol a pherfformio.