Mae Mark wedi gweithio fel rheolwr prosiect ac ymchwilydd i Brifysgol Abertawe ers 10 mlynedd ac mae wedi datblygu arbenigedd mewn heneiddio. Roedd yn gyfrifol am reoli Prosiect Cyfnewid Gwybodaeth ‘Gofal mewn Busnes’ a ariennir gan Ewrop, gan ddod â deiliaid diddordeb o sectorau gwahanol ynghyd i archwilio sut y gellir defnyddio technolegau newydd a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn y sector TG i ddiwallu anghenion gofal pobl hŷn. Mae ei ymchwil wedi cynnwys archwilio rôl pobl hŷn wrth liniaru newid hinsawdd a’r rhyngwyneb rhwng heneiddio a busnes.
Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, bu Mark yn gweithio i Age Cymru am chwe blynedd fel y Rheolwr Heneiddio’n Iach, gan ddatblygu a rheoli rhaglenni hybu iechyd cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn.