Dr Jo Hudson
Arweinydd Is-thema: Iechyd a Llesiant joanne.hudson@swansea.ac.uk

Mae Joanne yn Athro Cysylltiol mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi’n Seicolegydd Cofrestredig y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, ac yn Gymrawd Cyswllt a Seicolegydd Siartredig Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS). Mae Jo yn gyn-Gadeirydd Pwyllgor Cynhadledd Sefydlog y BPS, yr Is-adran Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff, a bwrdd Cymhwyster mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Mae’n Gymrawd British Association of Sport and Exercise Sciences (BASES), mae’n Wyddonydd Achrededig BASES (Ymchwil) ac yn Gadeirydd BASES Education and Teaching Special Interest Group.

Canolbwyntia ei hymchwil ddau brif bwnc: agweddau seicogymdeithasol ar weithgaredd corfforol mewn oedolaeth hŷn a theori gwrthdroi, theori ysgogiad, emosiwn a phersonoliaeth. Mae ei hymchwil gyfredol a ariennir, sy’n canolbwyntio ar oedolion hŷn, yn cynnwys partneriaethau â Chyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, Grŵp Tai Pobl a Phrifysgol Grenoble. Archwilia’r prosiectau hyn effaith ymyriadau cymunedol presennol ar gyfer oedolion hŷn, gan ddatblygu ymyriadau i wella llesiant corfforol a meddyliol oedolion hŷn, a deall rolau trawsnewidiadau a stereoteipiau oedran ar weithgaredd corfforol. Mae’n gyd-awdur ac wedi golygu pum testun, wedi cyhoeddi dros 50 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid ac wedi goruchwylio 12 myfyriwr PhD hyd ddiwedd eu hastudiaethau.

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr