Mae Martin yn Athro Cysylltiol mewn Gerontoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Ei brif ddiddordebau ymchwil yw gwaith ac ymddeoliad mewn cyd-destun byd-eang. Mae wedi ysgrifennu ar amryw eang o bynciau o ansawdd bywyd, gwaith ac ymddeoliad, anghydraddoldebau iechyd a globaleiddio. Mae wedi cyhoeddi mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid, nifer o adroddiadau a phenodau llyfrau, yn ogystal â thri llyfr. Mae wedi bod yn rhan o nifer o astudiaethau ar raddfa fawr gan gynnwys English Longitudinal Study of Ageing (ELSA), Survey for Health, Retirement and Ageing in Europe (SHARE) a’r Swedish Longitudinal Occupational Study of Health (SLOSH). Mae ar y pwyllgor llywio ar gyfer nifer o astudiaethau rhyngwladol, gan gynnwys Longitudinal Study of Aging (IRILSA) a Dinasoedd Cynhwysol trwy fynediad teg i Seilwaith Symudedd Trefol ar gyfer Dhaka-Bangladesh (EQUIMOB).
Mae’n ymwneud yn helaeth â nifer o sefydliadau proffesiynol rhyngwladol. Mae’n aeldo o Bwyllgor Gweithredol Cymdeithas Gerontoleg Prydain (BSG), Llywydd BSG Cymru, Cadeirydd Grŵp Gwaith ac Ymddeoliad BSG, Aelod Rhydd o bwyllgor Cymdeithaseg Heneiddio (RC11) y Gymdeithas Gymdeithasegol Ryngwladol a Chymrawd Cymdeithas Gerontolegol America. Mae’n aelod o Fforwm Cynghori Gweinidogol Cymru ar Heneiddio ac o Bwyllgor Technegol y Sefydliad Rhyngwladol Safoni ar gyfer Gweithlu Heneiddio. Ef yw Dirprwy Olygydd ar gyfer Ageing & Society, ac yn Olygydd Cysylltiol ar gyfer Social Theory and Health ac ar fyrddau golygyddol yr International Journal of Social Research Methodology ar Quality in Ageing and Older Adults.