Seicolegydd iechyd ac ymchwilydd ar gyfer llinyn Lle Sefydliad Awen yw Lizzie, a chanolbwyntia ar ddylunio ar gyfer mannau sy’n gyfeillgar i oedran ac sy’n cefnogi dementia. Arbeniga mewn llesiant yn hwyrach mewn bywyd a’i phrif ddiddordebau ymchwil yw heneiddio’n iach, dementia, amgylcheddau sy’n gyfeillgar i oedran, siopa a llesiant yn hwyrach mewn bywyd. Mae hyn yn cynnwys diddordeb arbennig yn y modd y gall arferion siopa a’r amgylchedd trefol ehangach effeithio ar weithgareddau hybu iechyd yn hwyrach mewn bywyd.
Mae Lizzie yn ymchwilydd dulliau cymysg sydd â phrofiad o gyfweld ag oedolion hŷn, arwain grwpiau ffocws, dylunio a chynnal arolygon yn ogystal â dadansoddi setiau data meintiol mawr sy’n cynrychioli’n genedlaethol. Mae wedi gweithio ar ystod o brosiectau gan gynnwys y profiad o drosglwyddo i ymddeol yn hwyrach mewn bywyd, Mynegai Heneiddio’r DU, Offeryn Asesu Preswyl Allanol Pobl Hŷn (OPERAT), Llesiant Cymru i bobl hŷn, agweddau rheolwyr cartrefi gofal tuag at gydbwyso risg ar gyfer preswylwyr â dementia, a phrofiadau oedolion traws hŷn o heneiddio a gwasanaethau gofal iechyd.
Mae cyfraniadau Lizzie i gerontoleg wedi arwain at gydweithrediadau cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys swydd ymchwilydd ble wnaeth ymweld â Phrifysgol Massey yn Seland Newydd i weithio ar ymchwil i ddeall yn gymdeithasol ymhellach y cysylltiadau rhwng heneiddio, mynediad i fannau bwyta a llesiant.
Cyn ymuno â’r byd academaidd, fel Is-lywydd Cynorthwyol Cyfathrebu Corfforaethol, bu Lizzie yn bennaeth menter Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol sefydliad gwasanaethau ariannol mawr sydd â’i bencadlys yn Seattle, UDA. Fel Rheolwr Cyfathrebu, roedd hi’n gyfrifol am gyfathrebu mewnol ac allanol gan weithio’n agos gyda rheolwyr gweithredol yn ogystal â chysylltu ag allfeydd cyfryngau allanol.