Dr Jane Mullins
Cynorthwyydd Ymchwil: Iechyd a Llesiant J.M.Mullins@Swansea.ac.uk

Ymchwilydd yn Sefydliad Awen, gyda dros 25 mlynedd o brofiad mewn ymchwil gerontolegol, nyrsio ac addysg yw Jane. Ei hangerdd trosfwaol yw dod o hyd i ffyrdd effeithiol ac ystyrlon i bobl sy’n byw â chyflyrau niwroddirywiol a strôc gyfleu eu hanghenion, lle maent yn profi anawsterau iaith mynegiadol a derbyniol.

Fel Nyrs Arbenigol mewn Ymchwil Dementia yng Nghlinigau Cof Caerfaddon (Sefydliad Ymchwil Gofal Pobl Hŷn) a Chaerdydd, fe wnaeth ddarparu cefnogaeth i bobl a’u teuluoedd / gofalwyr yn ystod eu diagnosis a’u gofal parhaus. Roedd hyn yn cynnwys cynnal astudiaethau ymchwil ansoddol a meintiol mewn nam gwybyddol ysgafn a dementia a chynnal treialon aml-ganolfan o’r cyffuriau trwyddedig cyntaf ar gyfer clefyd Alzheimer a dementia fasgwlaidd (donepezil, galantamine, rivastigmine, memantine). Fe wnaeth hefyd gynorthwyo myfyrwyr PhD gyda’u hymchwil cysylltiedig â dementia ar gof meta a phrosesu gweledol mewn clefyd Alzheimer.

Hefyd, mae ei rolau eraill yn cynnwys Rheolwr Ymchwil yn Uned Epilepsi Cymru, Ysbyty Athrofaol Cymru a Chydymaith Ymchwil yn Rhwydwaith Ymchwil a Datblygu Pobl Hŷn a Heneiddio (OPAN), Prifysgol Abertawe. Yma, cynhaliodd astudiaethau ansoddol a meintiol gan archwilio epilepsi, pryder a methiant meddyginiaeth a chanfyddiadau artistiaid’ (byw gydag epilepsi) ar sut yr effeithiodd eu ffitiau ar eu creadigrwydd. Yn OPAN hwylusodd grwpiau ffocws i archwilio nodweddion cwympiadau awyr agored gyda phobl hŷn.

Arweiniodd ei hymgais i ddod â chreadigrwydd i’w hymarfer at ei hymchwil PhD: A Suitcase of Memories, a Sensory Ethnography of Tourism and Dementia with Older People. Roedd hyn yn cynnwys addasu methodoleg ymchwil newydd i helpu i oresgyn rhai o’r anawsterau cyfathrebu a galluedd meddyliol y mae pobl sy’n byw gyda dementia cymedrol yn eu profi.

Mae rhai o’i chyfraniadau yn cynnwys: sut mae cynnal ymchwil foesegol gyda phobl sy’n byw â newidiadau mewn gallu meddyliol, gwybyddiaeth, iaith a hwyliau a achosir gan glefyd niwroddirywiol, gan ddefnyddio caniatâd ystyrlon a pharhaus; defnyddio Ethnograffeg Synhwyraidd fel methodoleg yn y celfyddydau a oedd yn cynnwys creu ffilm ddigidol gyda seinweddau sain (wedi’i chyd-gynhyrchu gyda’r cyd-ymchwilwyr a’i dosbarthu ganddynt, gan ddangos y ffilm yn eu grŵp Forget Me Not), archwilio gwrthrychau cyffyrddol, perfformiad a rhannu bwyd a diod (ysgogi cof a chyfathrebu); datblygu cist o offer amlsynhwyraidd creadigol y gellir ei ddefnyddio i ddarparu ffyrdd pleserus i bobl fynegi eu hunain a’u helpu i ailgysylltu â’u partneriaid / teuluoedd; a datblygu set o argymhellion ar gyfer darparwyr gwasanaeth sy’n cefnogi pobl sy’n byw â dementia cymedrol a’u partneriaid ac ar gyfer y diwydiant twristiaeth ehangach.

Arweiniodd ei rôl fel cyfranogwr ymchwil ac aelod o’r tîm cynghori ar lywodraethu ymchwil ar brosiect LAUGH® gyda Cathy Treadaway, Athro Ymarfer Creadigol yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd at greu HUG; dyfais synhwyraidd a ddyluniwyd i ddod â phleser a chysur i bobl sy’n byw â dementia.

Mae ei phrofiad nyrsio ac addysg yn cynnwys rheoli cartref gofal i oedolion hŷn, darparu “profi dementia;” hyfforddiant perfformiad ethnodrama gyda http://www.re-live.org.uk/, datblygu DUETcare (urddas, dealltwriaeth ac hyfforddiant empathi) a bod yn awdur ar ei blog a’i llyfr: Finding the Light in Dementia, a Guide for Families, Friends and Caregivers.

 

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr