Mae gwaith Dr Emily Underwood-Lee yn canolbwyntio ar roi straeon personol, nad oes fawr neb wedi eu clywed a chan bobl y gallai eu lleisiau fod wedi eu hymyleiddio neu eu hanwybyddu, ar led, gan roi ffocws ar y gwahaniaeth y gall clywed y straeon hyn ei wneud mewn perthynas â pholisi, arfer a bywyd bob dydd i’r storïwr a’r gwrandäwr, fel ei gilydd. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn straeon am y fam, rhywedd, iechyd/salwch, a threftadaeth.
Mae Emily yn Athro Cyswllt mewn Astudiaethau Perfformiad ym Mhrifysgol De Cymru. Mae wedi’i lleoli yng Nghanolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans, lle mae’n arwain nifer o brosiectau ymchwil a ariennir yn allanol, gan gynnwys ‘Performance and the Maternal’ (gyda chymorth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC)), ‘Fireside Science’ (gyda chymorth y Wellcome Trust), a ‘Deugain Llais, Deugain Mlynedd’ (gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri). Mae Emily yn goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, ac yn addysgu ar draws y cwricwlwm drama a pherfformio ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Mae hyn yn cynnwys arwain y modiwl Lefel 7, ‘Adrodd Storïau Digidol ar gyfer Iechyd’, trwy ba un y mae dros 50 o weithwyr gofal iechyd rheng flaen wedi cael eu hyfforddi i ddefnyddio storïau gyda defnyddwyr eu gwasanaeth i wella profiad y claf.
Ar y cyd â Dr Sarah Wallace, mae Emily yn arwain ‘Rhwydwaith Ymchwil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol Cymru’, ac yn aelod o grŵp llywio Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans. Yn ei bywyd cyhoeddus, mae Emily yn cydgynnull y gynhadledd ryngwladol chwemisol, ‘Adrodd Storïau ar gyfer Iechyd’ gyda Prue Thimbleby (Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe), ac yn aelod o grŵp llywio ‘Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru’.
Mae Emily wedi cyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion a llyfrau academaidd a adolygir gan gymheiriaid. Mae ei chyhoeddiadau diweddaraf yn cynnwys y gyfrol a awdurodd ar y cyd â Dr Lena Šimić, sef Maternal Performance: Feminist Relations (Palgrave 2021), y casgliad golygedig sydd ar fin ymddangos, hwn eto wedi’i awduro ar y cyd â Dr Lena Šimić, sef Mothering: Processes, Practices and Performance (Routledge 2022), ac argraffiad arbennig o’r cyfnodolyn a olygir gan gymheiriaid, sef Storytelling Self Society, ‘Storytelling for Health’ (2019).