Dr Elizabeth (Liz) Jones yw’r Swyddog Ymgysylltu Masnachol a Datblygu Ymchwil yn Sefydliad Awen.
Mae Liz yn Seicolegydd Siartredig, sydd â PhD mewn Seicoleg Addysgol, ac mae’n arbenigo mewn Ymyrraeth Gynnar a gwasanaethau amlddisgyblaethol i blant ag anghenion addysgol arbennig. Bu’n Aelod Siartredig o Gymdeithas Seicolegol Prydain er 1998.
Bu’n rhedeg ei busnes ymgynghoriaeth ymchwil ei hun (â ffocws pennaf ar ymchwilio i a gwerthuso iechyd a gofal cymdeithasol) am dros 20 mlynedd, gan ganolbwyntio ar fapio gwasanaethau, asesu anghenion, cynllunio ar gyfer darparu prosiectau a gwasanaethau, a’r gwaith pwrpasol o werthuso prosiectau a rhaglenni a fwriedir i ddarparu cymorth yn y meysydd iechyd meddwl, anabledd, cynhwysiant cymdeithasol, tlodi a chyfiawnder cymdeithasol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gweithiodd Liz gyda nifer o sefydliadau academaidd ledled Cymru a Lloegr. Mae Liz hefyd wedi cynnal gwerthusiadau ymchwil ar brosiectau a rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a hynny ar ran Awdurdodau Lleol; Llywodraeth Cymru; y Trydydd Sector; y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth; Sefydliad Iechyd Cyhoeddus; yr Adran Iechyd; y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’r Comisiwn Coedwigaeth.
Mae ei meysydd diddordeb ymchwil yn cynnwys: heneiddio’n iach, arwahanrwydd cymdeithasol ac unigedd, pobl hŷn a thechnoleg; anabledd; tlodi a chynhwysiant cymdeithasol.
Mae gan Liz ystod eang o brofiad o dendro ar gyfer grantiau cyllid. Mae hyn yn cynnwys datblygu cynigion ymchwil ar gyfer cyllidwyr allanol, cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gynllunio ymchwil, meithrin cydweithrediadau a chonsortia ag amrywiaeth o bartneriaid, ac ysgrifennu cynigion ar gyfer cyllid allanol, e.e. Innovate UK, UKRI, DASA, Ymddiriedolaeth Ufi Voch Tech, Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog a’r Loteri Genedlaethol. Bu’n gweithio mewn modd cefnogol a chydweithredol ym maes ymchwil a datblygu ledled amrywiaeth o sectorau, e.e. busnesau bach a mawr; y diwydiannau creadigol; y byd academaidd; y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, ac mae wedi cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil mewn cynadleddau, gweithdai a seminarau ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, e.e. Helsinki, Brwsel ac Iwerddon. Cafodd rhai o’r prosiectau ymchwil a gynhaliwyd ganddi ar gyfer y trydydd sector a’r sector cyhoeddus eu defnyddio i lywio’r gwaith o ddatblygu polisi a rhoi newidiadau gweithdrefnol ar waith, e.e. yn y gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â gweithdrefnau diogelu ac amddiffyn plant.
Mae hefyd wedi ymgymryd ag ymgysylltiad/ymgynghoriad cymunedol â phobl hŷn ar ran llywodraeth leol a llywodraeth genedlaethol, ynghyd â digwyddiadau cydgynhyrchu ar gyfer rhaglenni targededig a phrosiectau ymchwil.
Rôl Liz yn Sefydliad Awen yw cefnogi’r tri chlwstwr ymchwil pwerus sy’n canolbwyntio ar: Iechyd a Llesiant (profiadau, cynnyrch a gwasanaethau effeithiol yn y diwydiannau creadigol); Lle (dylunio ar gyfer llefydd sy’n gyfeillgar i oedran ac sy’n cefnogi dementia); a Gwaith (gweithleoedd sy’n gyfeillgar i oedran yn y diwydiannau creadigol).
Bydd hefyd yn cefnogi arweinwyr timau trawsbynciol ar gyfer economi, cynllunio a datblygu digidol, a’r cyfryngau, diwylliant a pherfformiad. At hynny, bydd yn llunio llwybrau i’r farchnad yn Sefydliad Awen.
Yn rhan o’i rôl o fod yn Swyddog Ymchwil, bydd Liz yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gychwyn a chefnogi Labordai Syniadau a gynhyrchir ar y cyd, gweithdai i bennu blaenoriaethau a Grwpiau Datblygu Ymchwil, a phrofi gweithgareddau sy’n arwain at greu cynigion am grantiau ymchwil.