Bryony Hipkin 18 October 2022
Mewn Cynhaldedd ATiC 2022 yr wythnos diwethaf, rhoddodd Dr Jane Mullins, ymchwilydd yn Sefydliad Awen, gyflwyniad ynglyn â’i gwaith yn ymwneud â dementia a’r synhwyrau: ‘Cyflymu Arloesedd mewn Iechyd a Llesiant.
Bu Symposiwm ATiC 2022 yn myfyrio ar effaith a gwaddol y rhaglen arloesol Cyflymu Cymru, gan arddangos sut mae Cymru’n cyflymu arloesedd drwy gydweithio rhwng y GIG a’r byd academaidd, ac yn grymuso cleifion drwy ymchwil sy’n seiliedig ar y defnyddiwr ac arloesi technolegau.
Partneriaid ATiC yn y rhaglen Cyflymu, sy’n cael ei hariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru, yw Cyflymydd Arloesedd Clinigol (CIA) Prifysgol Caerdydd, Canolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC) Prifysgol Abertawe a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy’n arwain y rhaglen. Gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’i Sefydliad TriTech, y mae ATic a HTC yn bartneriaid academaidd allweddol ynddo, hefyd ymuno â Cyflymu ar gyfer y Symposiwm hwn.
Amlygodd y digwyddiad sut mae Cyflymu wedi creu cyfleoedd cydweithredol a phartneriaethau newydd ar draws sectorau a sefydliadau. Gwnaeth hefyd edrych i’r dyfodol, wrth i’r cam hwn o’r rhaglen Cyflymu ddirwyn i ben ddiwedd Rhagfyr 2022.