Christina Deias Swyddog Marchnata a Chyfathrebu 8 February 2021

 

Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi bod Labordy Byw Sefydliad Awen sydd o’r radd flaenaf, i fod i gael ei gwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf, yn dilyn blwyddyn o waith adeiladu yn ei ganolfan ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae’r Labordy Byw hir-ddisgwyliedig yn gyfleuster ymchwil pwrpasol, a fydd yn caniatáu i ymchwilwyr, pobl hŷn, diwydiannau creadigol a nifer o ddeiliaid diddordeb eraill ddod ynghyd i weithio ar y cyd i ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau ac amgylcheddau newydd ar gyfer poblogaethau sy’n heneiddio.

Ym mis Mai 2020, cychwynnodd y gwaith datblygu gyntaf ar y Labordy Byw. Er gwaethaf y rhwystrau niferus sydd wedi codi yng ngoleuni’r pandemig coronafirws, mae adeiladu’r cyfleuster wedi gallu parhau gan ddilyn gweithdrefnau diogelwch llym sy’n cael eu rhoi ar waith.

 

Mae’r Labordy Byw yn cynnwys tri chyfleuster ymchwil allweddol, sef:

  • Lle hyblyg iawn i ddatblygu cynhyrchion mewn gwahanol amgylcheddau sy’n efelychu, megis cartref, gweithle, siop, amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol, a mannau cyhoeddus
  • Labordy caffi, sy’n cynnig amgylchedd hamddenol ar gyfer cyd-greu rhwng amryw ddeiliaid diddordeb gan gynnwys pobl hŷn, gofalwyr, dylunwyr, sefydliadau masnachol ac anfasnachol ac ymchwilwyr
  • Cyfleuster rhith-realiti (VR), a fydd yn datblygu cyfleoedd gyda’r diwydiannau creadigol i adeiladu ac arbrofi mewn amgylcheddau rhithwir, archwilio posibiliadau newydd ym myd gemau VR, a chreu cynnwys VR sy’n ddymunol, yn addas ac yn hygyrch i bobl hŷn.

Cefnoga’r Labordy Byw ddatblygiad technolegau newydd y gellir eu marchnata sydd â dilysrwydd ecolegol oherwydd eu bod wedi eu datblygu mewn amgylcheddau ‘bywyd go iawn’. Bydd y cyfleusterau hefyd yn helpu i greu rhwydwaith ffyniannus, gan ganiatáu i ni gynyddu nifer yr ymchwilwyr, staff a deiliaid diddordeb a fydd yn gweithio gyda’i gilydd i ddatgloi ein dealltwriaeth o rôl diwydiannau creadigol mewn perthynas â phoblogaeth sy’n heneiddio.

Wrth i’r Labordy Byw agosáu at gael ei gwblhau, rydym yn awyddus i gysylltu â darpar gydweithredwyr ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’n gilydd i gyflawni ein cenhadaeth o ddatblygu atebion arloesol a fydd yn gwella bywyd i bob un ohonom wrth i ni heneiddio.

 

Am fwy o ddelweddau, ewch i’n cyfrif Instagram: awen_institute

 

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr