Deprecated: Method ReflectionParameter::getClass() is deprecated in /www/aweninstitute_802/public/wp-content/themes/awen/vendor/illuminate/container/Container.php on line 826

Deprecated: Method ReflectionParameter::getClass() is deprecated in /www/aweninstitute_802/public/wp-content/themes/awen/vendor/illuminate/container/Container.php on line 900
Hanes Labordy Byw Sefydliad Awen – Awen Institute

Christina Deias Swyddog Marchnata a Chyfathrebu 6 April 2021

Mae cyfleuster ymchwil Sefydliad Awen wedi’i leoli yn Adeilad Talbot ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe. Diolch i gyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), mae bellach yn wahanol dros ben i pan arferai fod yn labordy peilot i addysgu peirianneg gemegol. Fodd bynnag, mae Sefydliad Awen yn talu teyrnged i’w hanes trwy ei ofod ymchwil newydd, y Labordy Byw, a hynny trwy gadw nifer o’i nodweddion gwreiddiol.

Dros sawl degawd, roedd y cyn labordy addysgu wedi galluogi myfyrwyr israddedig i feithrin profiad ymarferol a diwydiannol berthnasol o weithrediadau unedau trwy weithredu offer ar raddfa beilot, gan gynnwys colofnau distyllu, anweddyddion a rigiau peirianneg prosesau eraill.

Cyn: Labordy i addysgu peirianneg gemegol.
Ar ôl: Labordy Byw newydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn 2015, cafodd y labordy ei datgomisiynu a’i adleoli i Gampws Bae Prifysgol Abertawe, lle crëwyd labordy peilot modern ar gyfer peirianneg gemegol. Mae’r labordy wedi cael ei drawsnewid ers hynny trwy fuddsoddiad o £1m i ddatblygu Labordy Byw newydd Sefydliad Awen, sydd â chyfarpar ymchwil o’r radd flaenaf i alluogi’r broses o ddatblygu atebion ar y cyd ar gyfer cymdeithasau sy’n heneiddio.

Gwnaed y gwaith adeiladu yn ystod cyfnod heriol iawn i’r Brifysgol yn sgil pandemig COVID-19, ond deliodd y tîm dylunio a’r contractwyr, BBI Ltd, â phob her mewn modd proffesiynol i gynhyrchu cyfleuster newydd rhagorol.

Roedd yr athroniaeth ddylunio yn integreiddio rhannau o’r labordy presennol i gynnal edrychiad a theimlad diwydiannol y gofod, er enghraifft llawer o’r pibellwaith heb ei guddio.

Mae’r cyfleuster newydd sbon bellach yn cynnwys derbynfa gydag ardal swyddfa ystwyth a gofod Labordy Byw pwrpasol a thrawiadol, yn cynnwys model o gawod ac ystafell ymolchi, cegin, lolfa ac ystafell wely/swyddfa (gyda hyblygrwydd i efelychu amgylcheddau eraill megis siop neu fannau gweithio gwahanol). Mae’r cyfleuster hefyd yn cynnwys gardd realiti rhithwir (VR) a labordy caffi mawr golau i’w ddefnyddio ar gyfer gwneud gwaith ymchwil cydweithredol, a hynny wedi’i leoli ar drydydd llawr Talbot.

Cyn: Labordy addysgu.
Ar ôl: Labordy caffi.

 

 

 

 

 

 

Mae Sefydliad Awen, prosiect gwerth £3.5m, yn cael ei ariannu ar y cyd rhwng y Comisiwn Ewropeaidd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Y nod yw sefydlu Sefydliad Awen a Chymru yn ganolfan ragoriaeth ryngwladol o ran datblygu cynhyrchion, gwasanaethau ac amgylcheddau ar gyfer cymdeithasau sy’n heneiddio.

 

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr