Am y tro cyntaf, mae pobl dros 65 mlwydd oed yn y DU yn gor-rifo’r rheiny o dan 15 mlwydd oed. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi rhagweld, erbyn 2020, bydd oddeutu traen o’r boblogaeth sy’n gweithio – a bron i hanner y boblogaeth oedolion – yn cynnwys pobl 50+, sy’n rhan o duedd fyd-eang sy’n heneiddio yn y boblogaeth a fydd yn parhau yn y degawdau sydd i ddod. Amlygodd Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU heneiddio poblogaeth fel un o bedair Her Fawr i gymdeithas a diwydiant, y dylid mynd i’r afael â hwy trwy harneisio arloesedd. Yn ddiweddar, nododd llywodraeth y DU ymrwymiad i gynyddu cyfradd cyfranogiad gweithwyr hŷn yn y farchnad lafur 12% yn y blynyddoedd sydd i ddod. Gyda disgwyliad o fyw’n hirach, bydd mwy o bobl yn parhau i weithio tan yn hwyrach mewn bywyd.
Gall y diwydiannau creadigol chwarae rhan hanfodol wrth geisio atebion newydd a chreadigol i wireddu cyfleoedd gweithlu sy’n heneiddio. Yn y gweithle, gall pobl hŷn fod yn greadigol ac yn gynhyrchiol, a gallant gyfrannu profiad go iawn, gwybodaeth drawsddisgyblaethol, sgiliau rheoli a busnes. Mae’r diwydiannau creadigol yn cynhyrchu bron i £92 biliwn ar gyfer economi’r DU yn flynyddol (gwerth ychwanegol gros), gan gefnogi bron i 3 miliwn o swyddi a chyfrif am 9% o allforion gwasanaeth’r DU. Mae cyflogaeth yn y diwydiannau creadigol yn tyfu bedair gwaith cyfradd gweithlu’r DU gyfan. Mae’r Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn rhagweld y gallai’r sector fod gwerth bron i £130 biliwn erbyn 2025, gan gyfrannu at greu hyd at 1 miliwn o swyddi erbyn 2030. Yn y farchnad defnyddwyr, mae’r segment marchnad sy’n tyfu gyflymaf yn cael ei yrru gan boblogaeth sy’n heneiddio, gyda’r ‘bunt lwyd’ bellach yn cyfrif am £320 biliwn o wariant blynyddol cartrefi yn y DU a phobl dros 50 oed yn dal dros 75% o gyfoeth y genedl. Amcangyfrifir, erbyn 2025/30, y bydd tua 25% o’r farchnad diwydiannau creadigol sy’n cefnogi 250,000 o swyddi yn dibynnu ar ddefnyddwyr hŷn. Tra bod yr ‘economi hirhoedledd’ yn gyfle mawr i ddiwydiannau creadigol, mae hefyd yn cyflwyno her, gyda busnesau heb eu paratoi’n ddigonol ar gyfer y ddemograffig newydd o ran eu gallu i gydnabod, deall ac ymateb i alw newidiol.
Er hynny, dengys ymchwil dro ar ôl tro sut y mae pobl hŷn yn cael eu tanbrisio fel prynwyr cynhyrchion a gwasanaethau ac fel cyfranwyr posib yn y gweithle. O ganlyniad, mae’r boblogaeth hŷn yn cael ei gwneud yn anweledig i nifer o gwmnïau neu’n cael ei bortreadu gan ddefnyddio ystrydebau traddodiadol fel rhai ‘problemus’ a / neu ddibynnol ac angen cefnogaeth. Mae’r weledigaeth gul hon a meddwl tymor byr yn colli’r cyfle economaidd a gyflwynir gan boblogaeth sy’n heneiddio. Fel y dywedodd Harry Moody, Cyfarwyddwr Materion Academaidd AARP:
“Mae angen ymatebion creadigol arnom i ddyfodiad cymdeithas sy’n heneiddio, ac eto rydym yn ymddwyn fel tasen ni’n gyrru trwy edrych trwy ddrych golygfa gefn. Gwelwn broblemau’n bennaf, pan mae’r cyfleoedd lle mae angen i ni fod yn edrych.”
Mewn dull tebyg, mae’r boblogaeth sy’n heneiddio yn cynrychioli potensial profiadol ond na chaiff ei ddefnyddio ddigon ar gyfer gweithlu’r diwydiannau creadigol. Fel y noda adroddiad ar ddyfodol cynhyrchiant yn y diwydiannau creadigol:
“Credir bod gweithlu’r diwydiannau creadigol’ yn gymharol ifanc […]. Felly mae risg iddo golli cysylltiad yn raddol â chynulleidfaoedd hŷn, ac efallai na fyddant yn rhannu’r un chwaeth, ac ar yr un pryd methu â chipio potensial economaidd (a diwylliannol) gweithlu mwy amrywiol, sy’n gallu manteisio ar yr is-farchnadoedd amrywiol o fewn diwylliant cenedlaethol mwy tameidiog.”
O’r herwydd, nid yw’r diwydiannau creadigol ar hyn o bryd yn adlewyrchu amrywiaeth oedran poblogaeth ehangach y DU naill ai yng nghyfansoddiad eu gweithlu neu o ran ffocws eu hallbynnau. Ar gyfer y diwydiannau creadigol, efallai’n fwy miniog na sectorau eraill, mae methu â mynd i’r afael â’r mater hwn yn debygol o daro eu llinell waelod ac arwain at wastraffu cyfleoedd busnes. Mae nifer o achosion proffil uchel o wahaniaethu ar sail oedran gan brif gyflogwyr yn yr economi greadigol yn portreadu darlun negyddol o’r sector hwn. Er ei bod yn bosibl cael ffigurau ar ryw, statws ethnig ac economaidd-gymdeithasol gweithlu’r diwydiant creadigol, nid oes unrhyw ffigyrau’n bodoli ar ddadansoddiad y grŵp oedran. Yn erbyn y duedd o weithlu cynyddol yn heneiddio a’r ymdrech i ymestyn bywydau gwaith, mae angen mynd i’r afael â’r bwlch tystiolaeth hwn.
Ochr yn ochr â hyn, pobl dros 50 oed yw’r grŵp o weithwyr hunangyflogedig sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Gan fod gan yr economi greadigol gyfradd lawer uwch o weithwyr hunangyflogedig (35%) nag economi ehangach y DU (15%), dylai fod digon o gyfleoedd i weithwyr hunangyflogedig hŷn ymuno â’r diwydiannau creadigol. Er hynny, ychydig iawn sy’n hysbys am y rhwystrau a’r hwyluswyr i gyfranogiad economaidd ar gyfer yr hunangyflogedig hŷn.
Sefydlwyd Sefydliad Awen, yn rhannol, i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Bydd y Gweithgor, a arweinir gan Dr Martin Hyde ac Aelwyn Williams, yn gweithio gydag oedlion hŷn, busnesau, llunwyr polisi a grwpiau trydydd sector i i) asesu a hyrwyddo gweithleoedd oed-gyfeillgar / amrywiol yn yr oedran yn y diwydiannau creadigol; ii) cefnogi gweithwyr hŷn i gaffael sgiliau a gwybodaeth i weithio yn y sector; iii) gweithio gyda diwydiannau creadigol i ddylunio cymwysiadau newydd i gynorthwyo pobl sy’n aros yn y gweithlu yn hirach; a, iv) datblygu offer a chanllawiau newydd yn y sector i ledaenu arfer da a hyfforddiant ar gyfer rheoli a chefnogi gweithwyr hŷn. Bydd hyn yn gwella cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector ac yn helpu i ddylunio gwell cynhyrchion a gwasanaethau i hyrwyddo bywyd gwaith iach, llawnach i bawb.