Cynhaliodd aelodau pentref Troedrhiw’r-fuwch eu pedwerydd gweithgaredd cymunedol eleni, ers i Dr Liz Jones (Swyddog Ymgysylltu Masnachol a Datblygu Ymchwil, Sefydliad Awen) a’r Athro Alan Dix (Cyfarwyddwr y Ffowndri Gyfrifiadurol, Prifysgol Abertawe), ddechrau gweithio gyda nhw ym mis Mawrth 2021. Y digwyddiad oedd y Gwasanaeth Coffa a gynhaliwyd wrth Gofeb Ryfel Troedrhiw’r-fuwch, ar gyfer y dynion o Droedrhiw’r-fuwch a gollodd eu bywydau yn y ddau Ryfel Byd. Roedd hwn yn ddigwyddiad cymunedol rhyng-genhedlaeth a gefnogwyd yn dda dros ben eleni, ac roedd 37 o bobl yn bresennol yno, yn amrywio rhwng chwech ac 86 oed. Roedd y bobl a oedd yn bresennol yn dod o leoedd mor bell i ffwrdd â Swydd Efrog, ac roeddent hefyd yn cynnwys y ddau aelod diweddaraf o’r gymuned, a symudodd i Swyddfa’r Post ar ei newydd wedd (un o ddau adeilad yn unig sy’n dal i fod yn y pentref).
Gwnaeth Dr Jones dorch ar gyfer y gofeb ryfel gydag un pabi yn cynrychioli pob enw ar y gofeb (16 o’r ddau Ryfel Byd). Roedd y dorch hefyd yn cynnwys pum pabi ychwanegol ar gyfer dynion y mae Carys-Ann Neads (Archifydd Cymunedol) a Vincent Davies (Arbenigwr Hanes Milwrol) wedi’u canfod yn ystod eu hymchwil eleni. Gwnaeth Carys label i fynd ar y dorch, gan ychwanegu’r pum enw ychwanegol. Roedd hyn yn wirioneddol arwyddocaol, gan mai hwn oedd y tro cyntaf i enwau’r dynion hynny gael eu cofio ynghyd â’r gweddill ar y gofeb a gollodd eu bywydau. Mae’r gymuned yn bwriadu cael plac wedi’i wneud sy’n cynnwys enwau ychwanegol, fel y gellir ei arddangos ar y wal wrth ymyl y gofeb. Yna gellir cofio’r dynion hyn o Droedrhiw’r-fuwch ochr yn ochr â dynion eraill o’r gymuned.
Dilynwyd y Gwasanaeth Coffa trwy gyflwyno plac i Mr Brian Thomas yn yr Ardd Goffa sydd newydd ei datblygu, i nodi’r trigeinfed tro iddo gynnal Gwasanaeth Coffa Troedrhiw’r-fuwch rhwng 1961 a 2021.
Yr Ardd Goffa oedd safle Eglwys Sant Teilo Troedrhiw’r-fuwch, a gafodd ei dymchwel pan gliriwyd safle’r pentref yng nghanol yr 1980au.
Ar ôl y cyflwyniad, aeth y gymuned ymlaen i Eglwys Sant Tyfaelog ym mhentref cyfagos Pontlottyn. Yr eglwys hon yw mam eglwys Sant Teilo (a oedd yn flaenorol yn Nhroedrhiw’r-fuwch) a symudwyd cynnwys Eglwys Sant Teilo i Eglwys Sant Tyfaelog pan ddymchwelwyd y ferch eglwys.
Roedd llawer o gynnwys archif filwrol Troedrhiw’r-fuwch yn cael ei arddangos yn ystod y Diwrnod Agored, ac roedd Carys-Ann Neads a Vince Davies yno i siarad â’r gymuned am ei chynnwys a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Dr Liz Jones, Swyddog Ymgysylltu Masnachol a Datblygu Ymchwil yn Sefydliad Awen:
“Mae’n hyfryd gweld y gymuned yn dod ynghyd â chymaint o barch i anrhydeddu a chofio’r dynion a gollwyd o Droedrhiw’r-fuwch; a gweld bod yr ardd goffa yn dechrau cael gofal unwaith eto. Rwy’n credu y bydd llawer iawn o ddefnyddio arni gan aelodau’r gymuned, mae ganddynt lawer o gynlluniau ar gyfer y camau datblygu nesaf, a fydd, gobeithio, yn gallu cyd-blethu deunydd yr archif gymunedol a’r dechnoleg ddigidol y mae’r Athro Alan Dix wedi’u datblygu.”