Rhan o raglen waith Sefydliad Awen yw cynnal labordai syniadau a gweithdai, a fydd yn cael eu defnyddio i yrru meddwl ochrol a dulliau radical i fynd i’r afael â heriau ymchwil.
Bwriad labordai syniadau yw cynhyrchu ystod o ganlyniadau, yn amrywio o sylfeini prosiect ymchwil mawr sengl, i sawl prosiect llai, astudiaethau dichonoldeb, gweithgareddau rhwydweithio a lledaenu, neu fod yn rhagflaenydd i ddatblygu cynigion cyllido cystadleuol mawr.
Cynhaliwyd digwyddiad Lab Syniadau ar 14eg o Hydref 2020, gyda chynrychiolwyr o Sefydliad Awen a’r Ffowndri Cyfrifiadurol. Thema’r Lab Syniadau oedd:
“Tu Hwnt i Zoom – Sut y gall mathau o TGCh / Technoleg gefnogi ymgysylltiad ac iechyd a llesiant oedolion hŷn yn ystod yr argyfwng presennol a thu hwnt?”
Defnyddiwyd y Lab Syniadau hwn i gwmpasu, nodi a datblygu meysydd o gyd-ddiddordeb o amgylch testun y teitl; tynnu sylw at feysydd diddordeb thematig allweddol ar gyfer datblygu cydweithrediadau ymchwil.
Rhai o’r cwestiynau yr oedd gennym ddiddordeb yn eu harchwilio oedd:
- Pa atebion technoleg uchel / isel sydd ar gael i sicrhau bod iechyd, llesiant a chysylltedd cymdeithasol yn cael eu cynnal?
- Sut allwn ni ddysgu / dal a galluogi arfer da trwy dechnoleg?
- Sut allwn ni ymestyn a chynnal hynny wrth symud ymlaen?
- Sut allwn ni feddwl am dechnoleg ar lefel gymunedol i alluogi datblygu cymunedau sy’n gyfeillgar i oedran, neu gymdogaethau craff?
Yn ystod y Lab Syniadau, cynhaliwyd gweithdai i drafod y cwestiynau uchod ac o’r rhain, ffurfiwyd tri Grŵp Datblygu Ymchwil i ddatblygu syniadau mewn perthynas â datblygu prosiectau gyda’r bwriad o wneud cais am gyllid ymchwil a datblygu prosiect.
Cawsom ein gwahodd gan Cherish DE i geisio am nawdd hadau ar gyfer y prosiectau (hyd at £10k).
Cyflwynwyd ceisiadau gan dri phrosiect a chynhaliwyd Digwyddiad Cynnig Escaladur Dragon’s Den gan Cherish DE ar ddydd Gwener 11eg Rhagfyr 2020. Roedd dau o’r tri phrosiect yn llwyddiannus:
- Side by Side/Ochr wrth Ochr
- Adjust Tech, Accessible Technology (AT/AT)
Bydd y gwaith yn dechrau ar y prosiectau yma’n gynnar ym mis Ionawr 2021.