Gan Dr Deborah Morgan, uwch-swyddog ymchwil, y Ganolfan ar gyfer Heneiddio Arloesol
Rydym i gyd yn gyfarwydd â’r foment honno pan rydym yn cael ffôn neu gyfrifiadur newydd, rydym yn agor y bocs, yn gwefru’r ddyfais, yn ei throi ymlaen ac mae’r rhyngwyneb yn teimlo’n anghyfarwydd. Rydych yn clicio ar rywbeth, ac nid ydych yn gwybod sut i newid y sgrin, a ydych yn symud eich bys i fyny? a ydych yn clicio’n ôl? Nid oes dim byd yn digwydd. Mae’r rhyngwyneb cyfan yn teimlo’n anghyfarwydd, yn chwithig, ac yn rhy gymhleth. Rydych yn teimlo’n siomedig, yn rhwystredig, ac yn barod i roi’r ddyfais yn y drôr ac anghofio amdani. Mae ceisio dod o hyd i ateb i’ch trafferthion technolegol yn cymryd llawer o amser hyd yn oed i’r rhai ohonom sydd â sgiliau digidol ac sy’n gyfarwydd â thechnoleg.
Felly, dychmygwch os ydych yn newydd i dechnoleg. Sut y byddai’r senario uchod yn gwneud i chi deimlo? Mae’r ymdeimlad hwn o anwybodaeth yn realiti i bobl sy’n newydd i dechnoleg. Ac eto, nid oes ganddynt yr wybodaeth na’r sgiliau i ddod o hyd i atebion, felly maent yn rhoi’r gorau iddi ac mae’r ffôn clyfar yn mynd i mewn i ddrôr ac yn mynd yn angof. Er bod yna apiau lansio ar gael i symleiddio rhyngwynebau ffonau clyfar a llechi, mae’r rhain yn aml yn rhy gyfyngedig ac wedi’u dylunio o amgylch yr hyn y mae datblygwyr technoleg yn credu y mae pobl hŷn yn dymuno ei gael. Ar ben hynny, maent yn aml yn seiliedig ar ystrydebau a thybiaethau sy’n gwahaniaethu ar sail oed. Neu mae’r apiau’n rhy gymhleth ac wedi’u hanelu at farchnad iau, ac mae angen gwybodaeth a sgiliau sylfaenol arnoch i’w lawrlwytho a’u defnyddio.
Dyma oedd man cychwyn prosiect sbarduno, sef Adjust Tech – Accessible Technology, a ariannwyd gan Cherish De ac a gefnogwyd gan Sefydliad Awen.
Gweithiodd y tîm, a oedd yn cynnwys gerontolegwyr cymdeithasol, gwyddonwyr cyfrifiadurol geotechnoleg, ynghyd â phartneriaid o Cymunedau Digidol Cymru, a Digital Voice for Communities yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, gyda phobl hŷn nad oeddent yn defnyddio llawer ar dechnoleg, i gyd-ddylunio ap lansio newydd.
Yn ystod tri gweithdy, buom yn archwilio’r problemau cyffredin o ran technoleg, yr hyn yr oedd ein cyd-ddylunwyr hŷn yn ei hoffi a’r hyn nad oeddent yn ei hoffi am yr apiau presennol, a sut yr hoffent i ap edrych. Yn y gweithdy olaf, dangosodd y gwyddonwyr cyfrifiadurol yr ap prototeip yr oedd y grŵp wedi’i gyd-ddylunio. Roeddent wrth eu boddau ac yn llawn cyffro i gael rhywbeth diriaethol yr oeddent wedi’i ddatblygu.
Mae cyd-gynhyrchu neu gyd-ddylunio datrysiadau gyda’r defnyddwyr yn dod â buddion sylweddol o ran canlyniadau iechyd a lles ehangach, ynghyd â mwy o hyder wrth ddefnyddio technoleg a datblygu sgiliau sylfaenol. Adlewyrchwyd hyn yn yr adborth gan ein cyd-ddylunwyr a nododd fod cymryd rhan yn y gweithdai wedi rhoi mwy o hyder iddynt, a’u bod yn teimlo eu bod yn cael eu clywed.
Manteision allweddol mynd ati i gyd-gynhyrchu yw bod pobl hŷn yn cael eu hystyried yn asedau, a bod eu galluoedd yn cael eu cydnabod ac y cânt eu cefnogi i’w cyflawni. Gall hyn gynnwys cefnogi poblogaethau eraill sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol i gael llais ac i ddatblygu sgiliau digidol, datblygu sgiliau diogelwch ar-lein, cefnogi cysylltiadau cymdeithasol, gwella cydlyniant cymdeithasol, a lleihau allgáu cymdeithasol.
At hynny, mae cyd-gynhyrchu datrysiad yn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth a balchder i ddefnyddwyr dros yr ap, a all roi cyfle ar gyfer twf a datblygiad personol – gan eu grymuso i gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill yn eu cymunedau, neu i fod yn llysgenhadon dros gynhwysiant digidol.
Mae cyd-ddylunio yn berthynas ddwyochrog. Tynnodd y cyd-ddylunwyr sylw at broblem o ran diffyg dealltwriaeth o’r eiconau a ddefnyddir yn y dechnoleg ar gyfer ffonau symudol a llechi. Roedd hyn yn rhywbeth yr oeddent yn teimlo oedd yn bwysig ac y gallem eu helpu i fynd i’r afael ag ef. Felly, aethom ati i gyd-ddatblygu llyfryn Eiconau gyda’r grŵp, diolch i arian ychwanegol a sicrhawyd gan y Brifysgol Agored a oedd yn bartner i’r prosiect. Mae’r hwn bellach ar gael yn ddwyieithog, ar ffurf copi caled a fersiwn ddigidol. Rydym wrthi’n ceisio sicrhau cyllid i wneud yr ap prototeip yn realiti.
Rydym hefyd wedi cyd-gynhyrchu podlediad i gyd-fynd â’r prosiect lle gallwch glywed mwy gan ein cyd-ddylunwyr a’n partneriaid am y prosiect a buddion cyd-ddylunio.
Mae angen amser ar gyfer cyd-ddylunio ac mae angen i bobl hŷn fod wrth wraidd y broses. Mae angen i ni ddechrau gyda nhw a pha broblemau y maent am eu datrys. Mae byd o bosibiliadau yn agor pan fyddwn yn dylunio gyda’r bobl ar gyfer y bobl. Gellir defnyddio cyd-ddylunio yn helaeth ar gyfer mwy o ddatrysiadau technolegol, neu ymyriadau, neu wrth ddylunio gwasanaethau. Pan feddyliwch am y peth, mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd, onid ydynt?
I gyrchu’r Llyfryn Eiconau, cliciwch yma
I gyrchu’r podlediad, cliciwch yma