Deprecated: Method ReflectionParameter::getClass() is deprecated in /www/aweninstitute_802/public/wp-content/themes/awen/vendor/illuminate/container/Container.php on line 826

Deprecated: Method ReflectionParameter::getClass() is deprecated in /www/aweninstitute_802/public/wp-content/themes/awen/vendor/illuminate/container/Container.php on line 900
Diogelu etifeddiaeth hanesyddol Troedrhiw’r-fuwch – Awen Institute

Dr Liz Jones Swyddog Datblygu Ymchwil 14 November 2021
Cofeb ryfel Troedrhiw’r-fuwch

 

Oddi ar fis Mawrth 2021, mae Dr Liz Jones, Swyddog Ymgysylltu Masnachol a Datblygu Ymchwil yn Sefydliad Awen, a’r Athro Alan Dix, Cyfarwyddwr y Ffowndri Gyfrifiadurol ym Mhrifysgol Abertawe, wedi bod yn gweithio gyda chymuned ym mhentref Troedrhiw’r-fuwch ym Mlaenau Cwm Rhymni yn Ne Cymru. Maent wedi bod yn helpu’r gymuned i drefnu ei harchif hanesyddol, i goladu gwybodaeth ac ymchwilio iddi, ac i ddatblygu technolegau digidol ar gyfer gwarchod etifeddiaeth hanesyddol y pentref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Roedd Troedrhiw’r-fuwch, sydd ychydig filltiroedd i’r gogledd o Fargoed, yn bentref mwyngloddio ffyniannus ar un adeg. O dipyn i beth yn ystod blynyddoedd olaf yr 20fed ganrif, ymadawodd pobl â’r pentref oherwydd bygythiad tirlithriadau. Dau dŷ a’r gofeb ryfel yw’r cyfan sydd ar ôl o Droedrhiw’r-fuwch. Er gwaethaf y diffyg tystiolaeth ffisegol yn y pentref, mae ysbryd y gymuned yn parhau, ac wedi cael ei rymuso o ganlyniad i’r gofal a’r sylw a roddwyd i’w hanes gan y rhai sydd am roi llais i orffennol y pentref.

 

Mae Liz ac Alan wedi bod yn helpu i gefnogi’r gymuned yn ei hymdrechion i adfer ac adnewyddu cofeb ryfel a gardd goffa’r pentref, sydd wedi cael eu hesgeuluso oddi ar 1986. Mae i Droedrhiw’r-fuwch arwyddocâd hanesyddol mawr oherwydd y niferoedd o ddynion o anfonodd i’r Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer pentref o’i faint. Gwirfoddolodd 110 o’r 600 o drigolion, o 94 o’r tai, i wasanaethu, ac mae’r gofeb yn anrhydeddu 16 o ddynion y pentref a fu farw.

Cyn y gwaith: Gardd goffa Troedrhiw’r-fuwch        Wedyn: Gardd goffa Troedrhiw’r-fuwch yn dilyn atgyweiriadau hanfodol a meinciau newydd

 

 

Diolch i gefnogaeth Liz ac Alan, mae meinciau newydd wedi cael eu gosod yng ngardd y pentref yn ddiweddar, ac mae gwaith atgyweirio hanfodol wedi cael ei wneud i wal a gatiau’r ardd goffa. Mae Liz ac Alan yn gobeithio helpu’r gymuned i wneud cais am arian i adfer a datblygu’r ardd goffa, a fydd yn cynnwys integreiddio technoleg ddigidol i arddangos hanes y rhai a fu farw yn y rhyfel. Maent hefyd yn gobeithio gallu cynorthwyo’r gymuned i wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau ymchwil i helpu i ddatblygu’r archif a dulliau cipio digidol ymhellach, sydd oll yn cysylltu â chyd-destun polisi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

 

Mae Liz ac Alan wedi cynnal digwyddiadau ymgynghori a chasglu archifau ar y cyd â’r gymuned, a chynhaliodd y gymuned ei hun ddigwyddiad yn ystod mis Awst 2021. Bydd Liz ac Alan yn bresennol yn y Gwasanaeth Coffa wrth Gofeb Ryfel Troedrhiw’r-fuwch ar 14 Tachwedd 2021, a bydd y pentref yn cynnal diwrnod agored ‘dod at ein gilydd’ i rannu’r gwaith cydweithredol hyd yn hyn, ac i gasglu ac arddangos rhagor o ddeunydd archif.

(Chwith i’r Dde) – Vince Davies, Arbenigwr Milwrol Troedrhiw’r-fuwch; Dr Elizabeth (Liz) Jones, Swyddog Ymgysylltu Masnachol a Datblygu Ymchwil yn Sefydliad Awen; Carys-Ann Needs, Archifydd Cymunedol Troedrhiw’r-fuwch.

 

 

Mae’r prosiect cymunedol hwn yn tynnu sylw at y penderfyniad i ymgysylltu â chymunedau sy’n teimlo’n angerddol ynghylch eu treftadaeth, ac i fynd ati i gydgynhyrchu a chydweithio yn yr amgylchiadau mwyaf heriol o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.

 

Rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad cymunedol

 

Dywedodd Dr Liz Jones, Swyddog Ymgysylltu Masnachol a Datblygu Ymchwil yn Sefydliad Awen:

 

“Mae gweithio gyda’r gymuned, a’i helpu i ddechrau cyflawni ei dyheadau hirdymor ar gyfer yr archif, y gofeb ryfel a’r ardd, wedi bod yn brofiad hynod o ysbrydoledig. Gobeithiwn allu gweithio ochr yn ochr ag aelodau’r gymuned ar sawl ymdrech yn y dyfodol, a fydd yn darparu gwaddol parhaol am bwysigrwydd hanesyddol Troedrhiw’r-fuwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

 

 

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr