Rwyf wrth fy modd â’m swydd o fod yn Ymchwilydd yn Sefydliad Awen am fod hynny’n golygu y gallaf ddwyn ynghyd bobl hŷn, rhai ohonynt â dementia, ymchwilwyr o nifer o ddisgyblaethau, a phobl sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol, a hynny gyda’r bwriad o archwilio profiadau “bywyd go iawn” a dod o hyd i’n syniadau mawr newydd ar gyfer ymchwil.
Yn ddiweddar, gyda help Dr Sarah Campbell (Prifysgol Metropolitan Manceinion), y mae ei PhD yn rhannu themâu tebyg i’m Siwtces o Atgofion (methodolegau ymchwil creadigol, gofodau, lleoedd, ymgorffori a’r synhwyrau yn achos phobl sy’n byw â dementia), euthum ati i sefydlu dau labordy syniadau i archwilio dementia a gofodau synhwyraidd.
Cawsom gyfraniadau gan bobl ddiddorol, gan gynnwys Dr Andy Woodhead (na fyddai ganddo ots fy mod yn dweud ei fod yn byw â dementia corffynnau Lewy) a oedd yn gyfreithiwr ac yn ddarlithydd cyn ei ddiagnosis; yr Athro Andrea Tales, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Heneiddio Arloesol a Niwroseicolegydd sy’n arbenigo mewn prosesu gweledol ym maes dementia; yr Athro John Keady (Prifysgol Manceinion), sydd wedi gweithio’n ddiflino er yr 80au mewn ymchwil i ofal dementia sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn; yr Athro Charles Musselwhite, y mae ei arbenigedd yn cynnwys pobl hŷn ac ymdeimlad o le; yr Athro Nick Rich, sy’n Beiriannydd, ac sydd wedi gwneud gwaith ymchwil helaeth mewn amgylcheddau ysbyty a diogelwch. Mae’r rhestr yn un hirfaith, Dr Rebecka Fleetwood-Smith (Prifysgol Bryste), y mae ei PhD yn archwilio arwyddocâd dillad a thecstilau i bobl sy’n byw â dementia; yr Athro Andrew Clark (Prifysgol Salford), y mae ei ymchwil yn archwilio amgylcheddau a chymdogaethau gyda phobl sy’n byw â dementia (ac sy’n arbenigo mewn methodolegau ymchwil creadigol) ac yn olaf, ond yn bendant nid y lleiaf, Dr. Robyn Dowlen, (Y Ganolfan ar gyfer Gwerth Diwylliannol), yr oedd ei ymchwil PhD yn archwilio cerddoriaeth fyrfyfyr fel profiad synhwyraidd ac ymgorfforedig ar gyfer pobl sy’n byw â dementia.
Wrth i ni i gyd barablu’n huawdl mewn ymateb i’r cwestiynau:
- Beth sy’n eich helpu i sicrhau ymdeimlad o lesiant a llonyddwch yn eich cartref?
- Pa sbardun synhwyraidd sy’n eich gwylltio gartref ac sy’n wahanol i’r bobl yr ydych yn byw gyda nhw?
- Beth y mae gartref yn ei olygu i chi?
Cafodd nifer o themâu eu crybwyll, gan gynnwys:
- Ble y mae gartref?
- Ymdeimlad o sicrwydd a diogelwch, lloches
- Cyfeillgarwch
- Lle i fod yn greadigol gyda hobïau, gwrthrychau a phethau ffisegol
- Trefn arferol, ymdeimlad o barhad mewn bywyd
Roeddem wedi dysgu llawer am y modd y mae dementia corffynnau Lewy Andy yn effeithio ar ei synhwyrau, ac mae hyn oll yn rhoi rhywbeth i ni feddwl amdano o ran dyluniad cartrefi a lleoliadau gofal unigolion. Wrth i ni fynd ymlaen i archwilio’r cysyniad o gartref a’r modd y gall dementia effeithio ar y synhwyrau, byddwn yn ceisio creu ymchwil ac ychwanegu at y sylfaen wybodaeth sy’n bodoli. Yma rydym yn cynllunio ymchwil a all gael ei chynnal yng nghartrefi pobl ac yn ein labordy byw newydd sbon.
Mewn ymateb i’r labordy syniadau llwyddiannus, bydd Sefydliad Awen ‘nawr yn gartref i’r Rhwydwaith Ymchwil i Ddementia a Gofodau Synhwyraidd. Bydd ein labordy syniadau nesaf yn mynd ati i archwilio’r methodolegau ymchwil y mae angen i ni eu haddasu, gan fod ein holl arbenigedd yn cydnabod yr angen am ffyrdd creadigol o gyflawni ymchwil i gynorthwyo a galluogi ein cyd-ymchwilwyr sy’n byw â dementia. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu Elizabeth Shaw o People Speak Up, menter gymdeithasol leol sy’n cysylltu cymunedau trwy’r celfyddydau ac adrodd straeon er mwyn helpu gyda llesiant; Nick Ponsillo, o Ganolfan Phillip Barker ar gyfer Dysgu Creadigol, a Liz Posthelwaite, gwneuthurwr theatrau a hwylusydd creadigol. Ers hynny, rwyf wedi cwrdd a chysylltu ag Angela Gregory, sy’n Therapydd Galwedigaethol, Annie Bellamy, sy’n Ddarlithydd mewn Dylunio Pensaernïol, a Dr Victoria Bates, Athro Cyswllt mewn Hanes Meddygol Modern, y mae pob un ohonynt yn rhannu’r un angerdd proffesiynol a phersonol dros ddementia a gofodau synhwyraidd.