Dr Jo Hudson Arweinydd Is-thema: Iechyd a Llesiant 8 February 2021

Mae Joanne yn Seicolegydd chwaraeon ac ymarfer corff sy’n rhan o glwstwr ymchwil Iechyd a Llesiant o fewn Sefydliad Awen. Mae ganddi ddiddordeb mewn deall agweddau seicolegol a chymdeithasol, gweithgaredd corfforol, chwaraeon a phrofiadau ymarfer corff oedolion hŷn.

Cyn ymuno â Sefydliad Awen, roedd ei hymchwil wedi archwilio profiadau pobl hŷn o ran rhaglenni hyfforddiant cryfder a chydbwysedd fel rhan o ymyriadau atal cwympiadau aml ffactoraidd. Fe wnaeth yr astudiaethau hyn archwilio cymhelliant, hunaniaeth, hunan-siarad oedolion hŷn a’u naratifau personol. Mae rhai o ganfyddiadau’r astudiaeth wedi cefnogi gwerth y rhaglenni hyn ar gyfer helpu’r oedolion hŷn hyn i gynyddu eu synnwyr o gysylltiad gydag eraill, i gryfhau eu hunaniaeth gweithgaredd corfforol, ac, i rai, i ddatblygu naratif personol o dwf, heneiddio’n bositif a rheolaeth bersonol. Dengys yr ymchwil hefyd werth cymhwysedd a hunan-siarad sy’n gwella ymreolaeth ar gyfer cynnal cymhelliant i barhau â gweithgaredd corfforol.

Archwilia prosiectau ymchwil cyfredol Joanne effaith ymyriadau cymunedol presennol ar gyfer oedolion hŷn, gan ddatblygu ymyriadau i wella llesiant corfforol a meddyliol oedolion hŷn, gan geisio deall rolau trawsnewidiadau a stereoteipiau oedran ar weithgaredd corfforol, a, newid canfyddiadau o heneiddio a’u goblygiadau ar gyfer ymddygiad. O fewn Sefydliad Awen, fe fydd yn parhau â’r trywydd ymchwil hwn, er enghraifft, gydag astudiaethau wedi’u cynllunio a fydd yn archwilio’r defnydd o ofodau cartref oedolion hŷn i geisio cynyddu eu hymgysylltiad â gweithgaredd corfforol.

Bydd hi a’i chydweithwyr mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Seicoleg a Chyfrifiadureg yn defnyddio synwyryddion symud i fapio gweithgaredd corfforol ac ymddygiad eisteddog pobl o amgylch eu cartrefi i ddatblygu dyddiadur symud digidol a all fod yn sail i ymyriadau i gynyddu gweithgaredd corfforol ac wrth wneud hynny, gwella llesiant ac annibyniaeth.

 

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr