Dr Jane Mullins Cynorthwyydd Ymchwil: Iechyd a Llesiant 8 February 2021

Ond i rai pobl hŷn, mae symudedd cyfyngedig yn arwain at eu hynysu a’u caethiwo yn eu cartrefi (hyd yn oed yn fwy felly ar hyn o bryd, oherwydd Covid-19).

Mae Jo Hudson, Jane Mullins a Gareth Stratton o’n grŵp ymchwil Iechyd a Llesiant yn Sefydliad Awen yn ymuno â Chi Zhang a Gavin Bailey o’r Computational Foundry a’r Athro Michael Rosenberg o Orllewin Awstralia, i archwilio ffyrdd newydd o ysgogi oedolion hŷn i ddod yn fwy bywiog yn eu cartrefi eu hun.

HomeSPACE i Oedolion Hŷn: Cynyddu Gweithgaredd Corfforol yn y Cartref

Mae cartref pawb wedi bod mewn ffocws llawer mwy craff dros y flwyddyn ddiwethaf gan ein bod oll yn treulio llawer mwy o amser yno nag yr oeddem o’r blaen – er i rai oedolion hŷn, dyma yw’r achos cyn Covid-19, a dyma’r sefyllfa ers amser maith.

I nifer o oedolion hŷn, golyga nad ydyn nhw mor egnïol yn gorfforol ag y mae angen iddyn nhw fod, i’w galluogi i gynnal iechyd corfforol a llesiant meddyliol. Gall anweithgarwch corfforol arwain at nifer o gyflyrau iechyd a gall atal pobl rhag bod yn weithgar yn gymdeithasol, gan gyfyngu ar eu gallu i gymryd rhan fel y gallent fod eisiau, yn eu cymuned.

Ein nod yw cefnogi oedolion hŷn i ddod yn fwy annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a chwarae mwy o ran yn eu cymunedau trwy fod yn fwy egnïol ac yn llai eisteddog gartref. Mae academyddion o Abertawe a Gorllewin Awstralia wedi datblygu teclyn o’r enw HomeSPACE-II sydd wedi eu galluogi i fapio gofodau cartref plant (ee, grisiau, lle i chwarae ynddynt, offer sydd ar gael i annog gweithgaredd corfforol, sgriniau sy’n annog gweithgaredd, hinsawdd gymdeithasol deuluol), annog gweithgaredd corfforol a lleihau eu hymddygiad cynyddol eisteddog (Maitland et al., 2014, Sheldrick et al., 2020).

Gan weithio â phrosiect Super Agers Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, bydd ein gwaith yn Sefydliad Awen yn addasu HomeSPACE-II i’w ddefnyddio gydag oedolion hŷn, gan arwain at ddatblygu HomeSPACE-III. Yna, gan ddefnyddio synwyryddion symud yng nghartrefi pobl ac yn Labordy Byw Sefydliad Awen, byddwn yn monitro eu patrymau symud ac yn cysylltu’r data hyn â’r wybodaeth y gallwn ei hennill o HomeSPACE-III i’n galluogi i wneud argymhellion ynghylch sut y gallai pobl hŷn symud yn well yn eu cartrefi. Bydd hyn yn cynyddu eu galluoedd corfforol, hyder, annibyniaeth ac yn bwysicaf oll, ansawdd bywyd.

 

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr