Professor Andrea Tales Cyfarwyddwr 6 October 2021

Cyllid prosiect ymchwil newydd yn cael ei ddyfarnu gan Ymddiriedolaeth Syr Halley Stewart i’r Athro Kelly Mackintosh, yr Athro Melitta McNarry (Canolfan Ymchwil Chwaraeon Cymhwysol, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth) a’r Athro Andrea Tales (Sefydliad Awen) ym Mhrifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â Dr Emily Oliver (Prifysgol Durham ) a’r Athro Ralph Maddison (Prifysgol Deakin Awstralia)

Wrth i ni heneiddio, gall rhai o’n sgiliau gwybyddol, neu’n sgiliau meddwl, ddirywio. I rai pobl, mae newidiadau o’r fath yn ei gwneud yn anoddach iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau dyddiol arferol, a gall hyn yn ei dro arwain at unigrwydd, ac iechyd a llesiant gwael. Er y gall cynnal gweithgarwch corfforol a gweithgarwch meddyliol helpu i atal, neu leihau, rhai o’r effeithiau negyddol hyn, gall rhai oedolion hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal dreulio 97% o’u hamser ar eu pen eu hunain, naill ai’n eistedd neu’n gorwedd, ac felly mae’n bosibl na fyddant yn elwa ar ymarfer corff o’r fath.

 

 

Beic ymarfer corff llonydd yw BikeAround, ac iddo hanner cromen o’i amgylch lle mae golygfeydd o strydoedd o Google Maps yn cael eu harddangos. Mae hyn yn caniatáu i’r defnyddwyr feicio ‘hen lwybrau’ neu o amgylch lle o’u dewis (unrhyw le yn y byd), a hynny mewn ffordd ddiogel a chyffrous a heb fod angen i neb eu goruchwylio. Mae’n darparu ymarfer i’r corff a’r meddwl, a hwnnw ar gyflymder y mae’r sawl sy’n defnyddio’r beic yn ei ffafrio. Gellir rhannu’r profiad hwn ag eraill a all eistedd ochr yn ochr ac ymuno yn y daith, gan ychwanegu elfen gymdeithasol bwysig.

 

 

Ar gyfer yr astudiaeth hon, rydym yn gweithio’n agos gydag ENRICH Cymru i osod ‘BikeAround’ mewn pedwar cartref gofal gwahanol dros gyfnod o chwe wythnos. Yn ystod yr amser hwn, gwahoddir unigolion i ddefnyddio’r beic pryd bynnag y dymunant, ac ar ddechrau a diwedd y cyfnod o chwe wythnos byddwn yn asesu iechyd corfforol, gwybyddol a meddyliol y cyfranogwr ac yn gofyn am unrhyw sylwadau a barn ar y beic, ar feicio ‘hen lwybrau’ neu ‘weld’ lleoedd ac amgylcheddau newydd, ac ar fod yn fwy egnïol. Ar ôl y cyfnod hwn o chwe wythnos, byddwn hefyd yn siarad â’r rhai a ddefnyddiodd BikeAround yn aml a’r rhai nad oeddent wedi gwneud hynny, i weld pa ffactorau a ddylanwadodd ar y defnydd a wnaed o’r beic, beth yr hoffent ei weld yn cael ei newid, a sut yr oedd wedi gwneud iddynt deimlo.

Mae’r wybodaeth hon yn bwysig gan nad yw ymyrraeth ddim ond yn effeithiol os bydd pobl yn cymryd rhan ynddi’n gyson a thros yr hirdymor. Yr hyn sydd o bwys yw ein bod yn chwilio am ffyrdd o gynnal ymyraethau nad ydynt yn rhoi baich pellach ar staff cartrefi gofal. Mae’r ymyrraeth hon yn ddiogel ei natur, does dim angen i neb oruchwylio’r cyfranogwr, ac mae’n cefnogi ac yn annog oedolion hŷn i gymryd rhan weithredol yn eu hiechyd a’u llesiant.

 

Ymddiriedolaeth Syr Halley Stewart

Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru

 

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr