Dr Jane Mullins Cynorthwyydd Ymchwil: Iechyd a Llesiant 8 June 2021

Bu’n wythnos neu ddwy brysur yn Awen; yn gyntaf bu’n gyfle gwych i godi proffil Sefydliad Awen yn yr Ŵyl Cydgynhyrchu Heneiddio’n Well, Stronger Together: A Festival of Co-Production Learning with Ageing Better – Age Better yn Sheffield (agebettersheff.co.uk). Yma, llwyddais i gysylltu â phobl o bob cwr o’r DU i archwilio ffyrdd o ymgysylltu â phobl wrth iddynt heneiddio, o ran datblygu gweithgareddau sy’n helpu i ennyn ymdeimlad o gymuned a llesiant. Cefais hefyd fy nghyflwyno i arddangosiad o’r pecyn cymorth cydgynhyrchu, sy’n adnodd cynhwysfawr sydd ar gael yn rhad ac am ddim i bawb, ac a fydd yn helpu i lywio ymchwil, ymarfer a pholisi. Roedd clywed am y modd y mae nifer o fentrau cymunedol gwych wedi grymuso pobl hŷn i ailgysylltu â’u cymunedau yn ystod COVID yn brofiad gwefreiddiol.

Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd y gynhadledd flynyddol Arts 4 Dementia, Empowerment through artistic engagement, a sefydlwyd gan yr hanesydd celf ysbrydoledig, Veronica Franklin. Agorwyd y gynhadledd gan y Farwnes Greengross, sy’n un o noddwyr A4D ac yn Gyd-gadeirydd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Ddementia, ac roedd yn llawn gwybodaeth am y modd y gallwn ymgysylltu â’r diwydiannau creadigol i gefnogi pobl sy’n byw â dementia. Thema drosfwaol y gynhadledd oedd presgripsiynu cymdeithasol a gweld sut y gall gweithwyr cyswllt mewn meddygfeydd meddygon teulu gysylltu â mentrau celf cymunedol lleol i helpu pobl hŷn a phobl sy’n byw â dementia a salwch meddwl er mwyn annog iechyd meddwl a llesiant.

Dylai meddygon teulu, presgripsiynwyr cymdeithasol, sefydliadau iechyd a’r celfyddydau, addysgwyr ac arianwyr, arbenigwyr heneiddio arloesol a chreadigol, awdurdodau lleol a llunwyr polisi, ddod ynghyd a chwyldroi’r byd presgripsiynu cymdeithasol i ystyried diwylliant a chreadigrwydd ar gyfer iechyd yr ymennydd.

Veronica Franklin

Edrychaf ymlaen at gydweithredu â Veronica a’i thîm yn y dyfodol agos.

 

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr