Mae Jane wedi gweithio fel nyrs gofal dementia am nifer o flynyddoedd, ac mae hyn wedi cynnwys gofalu am bobl mewn cartrefi gofal, eu cefnogi trwy eu diagnosis mewn clinigau cof a’u gofal parhaus yn y gymuned a’r ysbyty. Felly pan gafodd y cyfle i ymgymryd ag ymchwil ar gyfer ei PhD, roedd hi’n gwybod yn union beth yr oedd eisiau ei gwneud.
Mae ei hymarfer nyrsio dementia a’i phrofiad ymchwil wedi ei harwain i ddod o hyd i ffyrdd i helpu pobl i gyfathrebu â’r rhai sydd â dementia ac sy’n aml yn ei chael hi’n anodd mynegi eu hunain. Gan ymchwilio ynghyd â phobl sy’n byw gartref, sydd â dementia cymedrol a’u partneriaid, archwiliodd ei PhD ffyrdd amlsynhwyraidd i’w helpu i gyfathrebu ac ailgysylltu, gan ddefnyddio gwyliau a theithio fel thema. Gan weithredu fel cyd-ymchwilwyr, dewisodd y cyplau y cyfeiriad yr oeddent am i’r ymchwil ei ddilyn ac ynghyd â Jane, fe wnaethant greu ffilm ddigidol unigol gan ddefnyddio eu lluniau gwyliau a chydweddu seinweddau sain, dod â llawer o wrthrychau ac arteffactau, mapiau, pasbortau a swfenîrs ynghyd i archwilio a rhannu bwyd a diod sy’n gysylltiedig ag atgofion gwyliau.
Roedd canlyniadau defnyddio’r synhwyrau yn eithaf rhyfeddol, ac arweiniodd at y cyplau yn gadael eu heriau beunyddiol a achosir gan ddementia ar ôl, gan eu helpu i ddod yn “gyfarwydd” â’i gilydd unwaith yn rhagor. Nawr yn Awen, mae Jane yn datblygu ei hymchwil ymhellach a gyda chymorth yr aelodau o’r Gweithgor Dementia 3 Gwlad a chydweithwyr, mae’n cynllunio ymchwil i ddatblygu’r cês dillad o atgofion fel pecyn cymorth ac ap y gellir eu defnyddio gyda theuluoedd a bwriada helpu’r rheiny sy’n ynysu adref ac mewn sefyllfaoedd gofal.