Mae amcangyfrifon yn dangos erbyn 2025/30 y bydd tua 25% o farchnad y diwydiannau creadigol yn dibynnu ar ddefnyddwyr hŷn. Er bod hyn yn cynnig cyfle mawr i ddiwydiannau creadigol, mae hefyd yn her, gyda busnesau wedi’u tan-baratoi i ddiwallu anghenion a dyheadau’r ddemograffig newydd a chynyddol hon.
Mae Sefydliad Awen yn annog cydweithredu ymhlith arbenigwyr. Mae’n dwyn ynghyd y diwydiannau creadigol, ymchwilwyr, pobl hŷn a grwpiau deiliaid diddordeb pobl hŷn i gyd-gynhyrchu atebion newydd fesul ymchwil a datblygiad ar gyfer y ddemograffig cynyddol hon. Arloesa’r sefydliad hwn y don nesaf o ddatblygiadau sydd wedi’u cynllunio i’n helpu i fyw bywydau boddhaus wrth i ni heneiddio.
Ein cenhadaeth
Dylai pobl hŷn fod yn aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Mae Sefydliad Awen yn cynnal ymchwil ar y cyd i greu atebion arloesol a fydd yn gwella bywyd i bob un ohonom wrth i ni heneiddio.
Ein gwerthoedd
Arloesiad
datblygu ymatebion creadigol newydd a gweithredu atebion ymarferol ar gyfer cymdeithasau sy’n heneiddio.
Cynhwysiad
gosod pobl hŷn yng nghanol ein gwaith i alluogi cyd-greu cynhyrchion a gwasanaethau ar gyfer y segment marchnad cynyddol arwyddocaol hwn.
Cydweithrediad
defnyddio perthnasoedd i ysgogi cefnogaeth integreiddiol ar gyfer arloesi a chydweithio ymchwil-ddwys.
Arbenigedd
gosod rhagoriaeth academaidd ar flaen ein gwaith i sicrhau bod ymchwil arbenigol yn cael ei wneud.